yr ystafell gefn
Newyddion Heddiw
Pwrpas y penawdau hyn ar gyfer dysgwyr canolradd ydy darparu ymarfer. Dyn nhw ddim yn benawdau 'go iawn'. Dros gyfnod bydd yr adnawdd hwn yn cyflwyno prif batrymau'r newyddion i gyd.
Y dyddiad heddiw ydy'r degfed (the tenth) a dyma'r newyddion
Daethpwyd o hyd i lun gan Rembrant mewn atig yn y Drenewydd ddoe. Mae arbenigwyr (specialists) o Amsterdam yn mynd i'r Drenewydd i edrych ar y llun heddiw.
Mae'r heddlu yng Nghaerdydd yn chwilio am ddau ddyn a dorrodd i mewn (who broke in) i fanc yn y Bala ddoe. Roedd y ddau yn gwisgo 'jeans' glas a chotiau denim. Roedd y ddau hefyd yn gwisgo balaclafas coch. Dihangodd y lladron (the robbers escaped) mewn car Peugeot gwyrdd.
Mae glaw trwm (heavy rain) wedi achosi problemau heddiw yn ardal Hafod y Groes. Mae afon Irfon wedi gorlifo (has overflowed) ac mae canol pentref Hafod y Groes ar gau. Mae rhybudd llifogydd (flood warning) hefyd yn ardal Nant y Cadno.
Y traffig i orffen. Mae'r glaw trwm wedi gwneud y ffyrdd yn beryglus (dangerous). Dylech yrru (you should drive) yn araf ac yn ofalus. Dyna'r newyddion heddiw - y degfed o'r mis.
